Croeso i Eiriolaeth Dinasyddion Person i Berson. Elusen leol ydyn ni, sy’n cynnig cyfeillgarwch, cefnogaeth a gwybodaeth i bobl ag anableddau dysgu fel bod modd iddyn nhw fyw eu bywydau i’r eithaf.
Helpu pobl ag anableddau dysgu i gyrraedd eu llawn botensial!
Beth Rydyn ni'n Ei Wneud
Prif Feysydd Craidd ein Gwaith:
Nodi Pobl
Rydyn ni’n nodi pobl ag anableddau dysgu sydd ag angen cymorth oherwydd eu bod wedi eu hynysu’n gymdeithasol, neu’n wynebu rhwystrau yn eu bywydau sy’n effeithio’n wael ar ansawdd eu bywydau.
Recriwtio a Hyfforddi
Rydyn ni’n recriwtio ac yn hyfforddi gwirfoddolwyr i ddod yn Eiriolwyr Dinasyddion. Ar ôl derbyn hyfforddiant, rôl yr Eiriolwr yw cefnogi eu Partner i sefyll i fyny dros eu hawliau ac i sicrhau bod eu llais yn cael ei glywed pan fo penderfyniadau’n cael eu gwneud sy’n effeithio ar eu bywydau.
Beth yw Eiriolaeth Dinasyddion?
Ystyr Eiriolaeth Dinasyddion yw cyfeillgarwch tymor-hir rhwng person ag anabledd dysgu (Partner), a gwirfoddolwr (Eiriolwr Dinasyddion).
Os hoffech chi gael cyngor neu ragor o wybodaeth
Cysylltwch â ni ar: 07436 102162
Oriau agor: dydd Llun i ddydd Gwener 9:00am – 5:00pm