Tudalen Pwy Ydyn Ni

Person to Person Citizen Advocacy

Elusen ydyn ni, wedi’n lleoli ym Mwrdeistref Sirol Caerffili, de-ddwyrain Cymru. Cawsom ein sefydlu yn 1995 gyda’r unig nod o sicrhau bod pobl ag anableddau dysgu yn cael cyfle i fyw bywydau llawn a gwerthfawr, a bod yn gyfranogwyr gweithgar, amlwg yn eu cymunedau.
Rydyn ni’n awyddus i bobl ag anableddau dysgu gyrraedd eu llawn botensial. Mae ein prosiect a’n gwirfoddolwyr yn darparu cyfeillgarwch, cefnogaeth tymor-hir, a gwybodaeth i bobl ag anableddau dysgu i sicrhau nad oes unrhyw rwystr na allant ei oresgyn.
Rydyn ni’n cyflawni hyn trwy greu partneriaethau Eiriolaeth Dinasyddion. Mae’r partneriaethau’n cael eu ffurfio rhwng Partner (person ag anabledd dysgu) ac Eiriolwr (gwirfoddolwr):

Mae’n bosibl y bydd Partner ag angen cymorth gan Eiriolwr am sawl rheswm:

  • Does ganddyn nhw ddim perthynas gefnogol gyda neb, ac maen nhw wedi eu hynysu’n gymdeithasol
  • Maen nhw’n cael eu herio gan weithgaredd neu sefyllfa sy’n berygl i’w bywyd
  • Maen nhw’n derbyn gwasanaeth sy’n lleihau eu cyfleoedd i dyfu’n bersonol
  • Mae yna dystiolaeth i awgrymu eu bod yn cael eu trin yn wael neu eu cam-drin.
image2
image3

Yr Eiriolwyr:

  • Aelodau cyffredin o’r gymuned leol yw’r Eiriolwyr, ac maen nhw’n amrywio’n fawr o ran eu sgiliau a’u profiadau.
  • Yr un peth sydd ganddyn nhw’n gyffredin yw parodrwydd i ffurfio cyfeillgarwch cefnogol gyda pherson ag anabledd dysgu.
  • Mae Eiriolwyr yn dod o bob cwr o gymdeithas, a gallant gynrychioli ystod eang o ddiwylliannau.
  • Does dim rhaid i Eiriolwyr gael unrhyw gymwysterau ffurfiol, nac unrhyw profiad blaenorol penodol.

Sut gall Eiriolwr helpu?

  • Helpu eu Partner i fynegi barn mewn cyfarfodydd, neu’n gyffredinol gyda phobl eraill
  • Helpu eu Partner i ddod o hyd i atebion i broblemau
  • Helpu eu Partner i wneud dewisiadau sydd o fudd iddyn nhw
  • Cefnogi eu Partner i gwrdd â phobl newydd a mynd allan i’w cymuned
  • Helpu eu Partner i gael mynediad at gymorth mae ganddynt hawl iddo.

Diolch yn fawr i’n noddwyr

Web Design Cardiff
The Web Designer Group Cardiff Logo

Close Button

Web Design Cardiff

The Web Designer Group Cardiff